Welsh language


Supporting the Welsh language at Santander

Polisi laith Gymraeg

Our customers are our priority and they’re at the centre of everything we do. We want all of our Welsh speaking customers to feel comfortable using Welsh language in their day to day banking with us and we encourage its use wherever possible. It's why we support a number of Welsh language initiatives, allowing customers to use Welsh language in conversations with our Welsh speaking colleagues in branch, on our cash machines in Wales and when writing to us.

Below, you'll find information on exactly what we’re doing to support the use of Welsh language.

  • Our branches in Wales - We have branches throughout Wales and additional branches within some of the universities in Wales. Find a branch
  • Corporate & Commercial business centres in Wales - We have 2 business centres in Wales based in Cardiff and Swansea. Our local team of Relationship Directors and Credit Partners work with SMEs across Wales, building long term relationships and providing tailored solutions that meet their commercial banking needs
  • Welsh speaking staff - Cymraeg Welsh LogoWe recruit from the communities which we operate in and we have many Welsh-speaking colleagues throughout our branches in Wales. We encourage colleagues who speak Welsh to help customers with their banking queries using their preferred language as they would do in normal day to day life. All of our Welsh-speaking branch colleagues are easily identified by a recognised orange badge with the laith Gwaith/Working Welsh logo on it. 
  • Signs in our branches - We’ve been refurbishing our branches, including some in Wales. Changes you can expect to see include dual language welcome walls and signs inside the branches. We’ll carry on our refurbishment programme and so you’ll see these changes in more branches in the future.
  • Cash machines - We’ve recently installed new touch screen cash machines so you can now choose Welsh language on all of our UK cash machines. When you’ve used your debit or credit card once and chosen Welsh as your language, it will be remembered for future transactions. If you’d like any help with this please speak to a member of staff in a branch.
  • Cheques - You can deposit cheques written in Welsh into your Santander accounts using any of our UK branches, UK cash machines, or by sending them to us in the post. They’ll go through our normal cheque clearing cycle. You may also want to consider our other payment methods, which include Online Banking and faster payments.
  • Chequebooks - Bilingual chequebooks for your Santander accounts (including business accounts) are available. If you’d like to order a new Welsh language chequebook, you can request this by either visiting your local branch, calling our telephone banking service or you can send a request via chat by logging on to online banking.
  • Documentation - We understand our customers who live in Wales may have various documentation that will be written in Welsh. If we receive documentation from you in Welsh, our staff will translate the document into English. Below are the types of documents that we can accept in line with our standard policies:
    • Utility Bills
    • Payslips / Proof of Income
    • Driver's Licence or other standard identification documents
  • Correspondence written in Welsh - If you write to us in Welsh, we'll translate your correspondence into English where necessary. If we need to reply to you, this will be written back to you in English so that it can be read and understood by any member of our team.

Polisi laith Gymraeg

Mae ein cwsmeriaid yn flaenoriaeth inni, ac maen nhw wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym am i bob un o'n cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith deimlo'n gyfforddus ynghylch defnyddio'r Gymraeg wrth ddefnyddio ein gwasanaethau bancio o ddydd i ddydd, ac rydym yn annog pobl i'w defnyddio lle bo hynny'n bosibl. Dyma'r rheswm pam ein bod yn cefnogi nifer o fentrau Cymraeg, sy'n galluogi cwsmeriaid i ddefnyddio'r Gymraeg mewn sgyrsiau gyda'n cydweithwyr Cymraeg eu hiaith mewn canghennau banc, ar ein peiriannau arian parod yng Nghymru, ac wrth ysgrifennu atom.

Isod, fe welwch wybodaeth fanwl am beth ydym yn ei wneud i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg.

  • Ein canghennau yng Nghymru - Mae gennym ganghennau drwy gydol Cymru a changhennau uchwanegol mewn rhai prifysgolion yng Nghymru. Chwilio am gangen
  • Canolfannau busnes corfforaethol a masnachol yng Nghymru - Mae gennym 2 ganolfan busnes yng Nghymru wedi'u lleoli yng Nghaerdydd ac Abertawe. Mae ein tîm lleol o Gyfarwyddwyr Perthynas a Phartneriaid Credyd yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig ledled Cymru, gan adeiladu perthnasau tymor hir ac yn darparu atebion wedi'u teilwra sy'n diwallu eu hanghenion bancio masnachol.
  • Cymraeg Welsh LogoStaff sy'n siarad Cymraeg - Rydym yn recriwtio o'r cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt, ac mae gennym lawer o gydweithwyr sy'n siarad Cymraeg yn ein canghennau ledled Cymru. Rydym yn annog cydweithwyr sy'n siarad Cymraeg i helpu cwsmeriaid gyda'u hymholiadau bancio gan ddefnyddio eu dewis iaith, fel y byddent yn ei wneud yn eu bywyd bob dydd arferol. Mae pob un o'n cydweithwyr cangen sy'n siarad Cymraeg yn hawdd eu hadnabod gan y byddant yn gwisgo bathodyn oren cydnabyddedig a'r logo 'Iaith Gwaith' arno.
  • Arwyddion yn ein canghennau - Rydym wedi bod yn adnewyddu ein canghennau, yn cynnwys rhai yng Nghymru. Y newidiadau y gallwch ddisgwyl eu gweld yn cynnwys waliau croeso dwyieithog ac arwyddion tu fewn i'r canghennau. Byddwn yn dal ati gyda’n rhaglen adnewyddu ac felly byddwch yn gweld y newidiadau mewn rhagor o ganghennau yn y dyfodol.
  • Peiriannau codi arian - Rydyn ni wedi gosod peiriannau codi arian sgrin gyffwrdd newydd yn ddiweddar, felly byddwch nawr yn gallu dewis yr iaeth Gymraeg ar bob un o'n peiriannau codi arian yn y Deyrnas Unedig. Pan fyddwch chi wedi defnyddio eich cerdyn debyd neu gredyd unwaith a dewis Cymraeg fel eich iaith, bydd yn cael ei gofio ar gyfer trafodion yn y dyfodol. Os hoffech chi unrhyw help gyda hyn, yna siaradwch ag aelod o staff mewn cangen.
  • Sieciau - Gallwch dalu sieciau wedi eu hysgrifennu yn Gymraeg i mewn i'ch cyfrifon Santander yn defnyddio unrhyw un o’n canghennau neu peiriannau codi arian yn y Deyrnas Unedig, neu trwy eu hanfon atom yn y post. Byddant yn mynd trwy ein cylched clirio sieciau arferol. Efallai y byddwch chi am ystyried ein dulliau talu eraill, sy'n cynnwys taliadau cyflymach Bancio Ar-lein.
  • Llyfrau siec - Mae llyfrau siec dwyieithog ar gyfer eich cyfrifon Santander (gan gynnwys cyfrifon busnes) ar gael. Os hoffech chi archebu llyfr siec Cymraeg newydd, gallwch ofyn am hyn trwy naill ai ymweld â'ch cangen leol, ffonio ein gwasanaeth bancio dros y ffôn, neu defnyddiwch ein gwasanaeth sgwrsio ar-lein (ar gyfer hyn, mewngofnodwch drwy santander.co.uk a dewis y gwasanaethau negeseua diogel).
  • Dogfennaeth - Rydym yn deall y gall ein cwsmeriaid sy'n byw yng Nghymru feddu ar nifer o ddogfennau sydd wedi'u hysgrifennu yn Gymraeg. Os byddwn yn derbyn dogfennaeth oddi wrthych yn Gymraeg, bydd ein staff yn cyfieithu'r ddogfen i'r Saesneg. Isod ceir y mathau o ddogfennau y gallwn eu derbyn yn unol â'n polisïau safonol:
    • Biliau Cyfleustodau
    • Slipiau Cyflog / Prawf o Incwm
    • Trwydded Yrru neu ddogfennau adnabod safonol eraill
  • Gohebiaeth ysgrifenedig yn Gymraeg - Os byddwch yn ysgrifennu atom yn Gymraeg, byddwn yn cyfieithu eich gohebiaeth i'r Saesneg lle bo angen. Os bydd angen inni ymateb i chi, bydd hyn yn cael ei ysgrifennu yn Saesneg fel y gellir ei ddarllen a'i ddeall gan unrhyw aelod o'n tîm. 
Was this helpful?

Ask us a question

We'll help you get the
answers you need

Do your banking online

Ways for you to manage your
money without leaving home